Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Chwefror 2021
Amser:
09. -
11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11064
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mick Antoniw AS (Cadeirydd) Carwyn Jones AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Chris Warner, Llywodraeth Cymru Dorian Brunt, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gruffydd Owen (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
Cafwyd cadarnhad gan y Cadeirydd ei fod, yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd unrhyw ddirprwyon.
2 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws): Sesiwn dystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws).
3 Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(5)729 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, yn ogystal â’r ymateb gan Lywodraeth Cymru a ddaeth i law yn ystod y trafodion, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(5)728 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd yn flaenorol
4.1 SL(5)703 - Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
4.2 SL(5)707 - Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4.3 SL(5)723 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4.4 SL(5)725 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4.5 SL(5)726 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021
Nododd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Is-ddeddfwriaeth sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7
5.1 SL(5)727 - Cod Ymarfer Treuliau Etholiad Ymgeiswyr (Etholiadau'r Senedd) 2021
Trafododd y Pwyllgor y Cod Ymarfer a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.
6 Offerynnau statudol y mae angen i’r Senedd gydsynio â hwy (Memoranda Cydsyniad Offeryn Statudol)
6.1 SICM(5)39 - Rheoliadau'r Gyfarwyddeb Masnach Electronig (Addysg, Mabwysiadu a Phlant) (Diwygio etc) 2021
Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a’r sylwebaeth.
7 Papurau i’w nodi
7.1 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd, yn ystod y sesiwn breifat, i ysgrifennu yn ôl i ofyn am ragor o wybodaeth am y Rheoliadau.
7.2 Gohebiaeth â'r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder: Gwneud i gyfiawnder weithio yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, gan nodi hefyd bod trefniadau’n cael eu gwneud i alluogi’r Arglwydd Ganghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor fel rhan o’i ymchwiliad i wneud i gyfiawnder weithio yng Nghymru.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
9 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) – trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y sesiwn gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a chytunodd i gwblhau ei adroddiad y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor, cyn ei osod mewn pryd ar gyfer y ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd wedi’i threfnu ar gyfer 2 Chwefror 2021.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd – trafod yr adroddiad drafft
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i drafod drafft arall o’i adroddiad yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.
11 Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig – sesiwn friffio
Cytunodd y Pwyllgor i ohirio’r sesiwn friffio tan y cyfarfod nesaf.
12 Fframweithiau cyffredin – y wybodaeth ddiweddaraf
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.